Rheoli Prosiect - Ymarferydd PRINCE2

Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Morgannwg, y mae'n bleser gan Gwasanaethau Busnes InSynch Cyf. Bydd y cymhwyster hwn, y mae mawr alw amdano, yn apelio at fasnachwyr unigol ac at fudiadau mawr sy'n cydnabod pwysigrwydd cynyddol y cymhwyster yn yr hinsawdd fusnes sydd ohonni.

Dyddiadau a lleoliadau'r cwrs

5 diwrnod o hyd ac yn cynnwys cwrs Sylfaen a chwrs Ymarferydd.

Llandrindod Wells
27fed o Ebrill tan y 1af o Mai 2009 (cyn.)
Aberystwyth
21fed o Fedi tan y 25ed o Fedi 2009 (cyn.)
Welshpool
19fed o Hydref tan y 23fed o Hydref 2009 (cyn.)

Beth yw PRINCE2?

Mae PRINCE2 - PRojects IN Controlled Environments - yn ddisgrifiad ysgrifenedig o sut mae rheoli prosiect mewn modd rhesymegol a threfnus, gan ddilyn camau penodol.  Nid arf na thechneg mohonno, ond proses reoli strwythuredig sy'n pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod gan bob prosiect ddechrau, canol a diweddglo sy'n drefnus ac o dan reolaeth. Mae PRINCE2 yn cael ei gydnabod ar draws y byd fel y fframwaith ymarfer gorau ar gyfer Rheoli Prosiect.

Yn eiddo i Swyddfa Fasnach y Llywodraeth, fe'i lawnsiwyd yn 1996 a PRINCE2 bellach yw'r prif safon yn y DU ar gyfer prosiectau o bob math. Un o'r rhesymau am y defnydd eang o PRINCE2 yw ei fod yn ddull hawdd i'w deilwra a'i roi ar waith mewn prosiectau a sefyllfaoedd o bob math ac ar draws pob sector. Fe'i cynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer y sector gyhoeddus ond yn sgîl ei lwyddiant ysgubol, mae'n cael ei fabwysiadu fwy fwy gan gwmniau blaengar yn y sector breifat. Gellir defnyddio PRINCE2 ar gyfer unrhyw fath o brosiect, beth bynnag fo'i faes, ei faint neu ei sector. Mae PRINCE2 yn sicrhau bod gan bob cynrychiolydd wybodaeth am yr iaith gyffredin a ddefnyddir i reoli prosiect.

Amcanion y cwrs

O fynychu'r cwrs, caiff cynrychiolwyr ddealltwriaeth fanwl ac ymarferol o fethodoleg PRINCE2 a fydd yn eu galluogi i roi PRINCE2 ar waith wrth drefnu a rheoli prosiectau, beth bynnag eu maes a'u maint. Bydd cynrychiolwyr yn dod i ddeall sut i wella'u rheolaeth ar brosiectau a sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau ar amser ac oddi mewn i gyllideb.

Mae logo tirlun dinas PRINCE2 yn nod masnach cofrestredig Swyddfa Fasnach y Llywodraeth ac mae wedi'i gofrestru gan Swyddfa Patent a Nod Masnach yr UDA.

Pwy ddylai fynychu'r cwrs?

Unigolion â chanddynt rôl rheoli prosiect, sydd am gael cymhwyster ffurfiol i gydnabod  lefel eu gallu. Mae cyrsiau PRINCE2 yn adnabyddus ar draws y sector breifat a chyhoeddus.

Byddai'r cwrs hefyd o fudd i reolwyr ac uwch staff sy'n awyddus i wybod mwy am reoli prosiect mewn dull rheoledig.

Cymhwyster

Bydd pob cynyrchiolydd sy'n llwyddo yn yr arholiad Ymarferydd yn derbyn cymhwyster Ymarferydd PRINCE2TM cofrestredig.

Braslun o'r cwrs

Mae Cwrs Ymarferydd PRINCE2 yn gwrs 5-diwrnod sydd wedi'i achredu gan APMG a'i ddarparu gan Brifysgol Morgannwg sy'n defnyddio hyfforddwyr â chanddynt sêl bendith PRINCE2. Mae'r tridiau cyntaf yn ymdrin â'r lefel Sylfaen, gyda'r pedwerydd a'r pumed diwrnod yn canolbwyntio ar astudio ar gyfer yr arholiad Ymarferydd sy'n cael ei gynnal ar brynhawn y pumed diwrnod.

Arholiadau

Caiff yr arholiad Sylfaen ei gynnal ar brynhawn y trydydd diwrnod ac mae angen ateb 75 o gwestiynau aml-ddewis. Mae'r arholiad Ymarferydd yn arholiad llyfr agored, 3 awr o hyd, sy'n cynnwys tri chwestiwn yn seiliedig ar astudiaeth penodol.

Manylion y cwrs

Mae cost y cwrs yn cynnwys cyfarwyddiadau ymuno, cyfeirlyfr PRINCE2, deunydd paratoi cyn y cwrs, nodiadau cwrs manwl, arholiadau a lluniaeth, gan gynnwys cinio. Caiff y deunydd darllen paratoadol ei hanfon i gynrychiolwyr cyn dechrau pob cwrs.

'Rydym yn argymell yn gryf bod cynrychiolwyr yn gwneud rhwng 10 a 15 awr o ddarllen paratoadol yn yr wythnosau cyn i'r cwrs ddechrau. Yn ystod y cwrs, mae disgwyl i bob un o'r cynrychiolwyr weithio yn ystod y min nos.

Dyddiadau a lleoliadau'r cwrs

Mae dau gwrs PRINCE2 yn cael eu cynnal yng nghanolbarth Cymru yn 2007, y ddau yn 5 diwrnod o hyd ac yn cynnwys cwrs Sylfaen a chwrs Ymarferydd.

Pris

£1,450 + TAW y pen
I gynnwys deunydd paratoi cyn y cwrs, llawlyfr PRINCE2 a ffioedd arholiadau.

 



Download a Prospectus

Click Here to Order a Prospectus

  •