Hyfforddiant Busnes
Mae InSynch wedi cynnig hyfforddiant i dros 600 o fusnesau yn y 18 mis diwethaf yn unig, boed mewn gweithdy, seminar neu hyfforddiant unigol. Mae ein sesiynnau hyfforddi yn ryngweithiol ac rydym yn osgoi dulliau sych o ddysgu gan sicrhau bod y sesiynnau yn ymarferol ac yn cynnwys trafodaeth ryngweithiol bob tro.
Rydym yn sicrhau bod ein hyfforddi mor real â phosib ac yn cwrdd ag anghenion pob un sy’n cymryd rhan. Rydym wedi datblygu cyrsiau y gellir eu haddasu ar gyfer anghenion grwpiau unigol ac rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau i ddatblygu sesiynnau hyfforddi unigryw ar gyfer eu anghenion penodol.
Fe allwn hefyd ddarparu offer hyfforddi TG cludadwy o’r safon uchaf a gellir llogi yr offer yn breifat (cliciwch yma am ragor o wybodaeth).
Mae yna amlinelliad o’n gwasanaethau hyfforddi isod, gyda gwybodaeth ychwanegol am ein cyrsiau hyfforddi safonol.
Cysylltwch â ni yn uniongyrchol er mwyn trafod eich anghenion yn eu cyfanrwydd ac fe allwn baratoi cynnig sydd wedi’i deilwra at eich anghenion busnes chi.
Cyrsiau Busnes Cyffredinol:
- Cynllunio Busnes
- Rheoli Prosiectau
- Ymarferydd PRINCE2
- Rheoli Amser
- Cymryd Cofnodion
- Rheoli Gwrthdaro
- Cydraddoldeb yn y Gweithle
- Ysgrifennu Adroddiadau Effeithlon
- Datblygu Perthynas a Chwsmeriaid
- Rheoli Perfformiad
- Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Gwerthu ar y Ffôn
- Sgiliau Cyflwyno
- Datblygu Strategaeth Farchnata ar gyfer eich Busnes
- Marchnata Strategol
- Rheoli Straen yn y gweithle
- Materion cyfreithiol sy’n wynebu busnesau bach
- Cyfrifon a chyllid busnes
Cyrsiau TGCh:
- Sgiliau Cyflwyno a PowerPoint
- Cyfarwyddo ag Office 2007
- Microsoft Project
- Dreamweaver
- Defnyddio Microsoft Excel yn effeithlon
- Defnyddio Microsoft Word yn effeithlon
- Defnyddio Data Cwsmeriaid yn effeithlon
- Argraffu Bwrdd Gwaith ar gyfer busnesau bach
- Adobe Photoshop
- Adobe Illustrator
- CorelDraw
Cyrsiau Gwefannau:
- Ysgrifennu Copi ar gyfer y We
- Delweddau digidol ar gyfer y We
- Cynnal eich gwefan eich hun
- Gwneud y gorau o Beiriannau Chwilio
- eFarchnata (Camau 1, 2 a 3)
Un o'r cyfresau gorau o gyrsiau 'rwyf erioed wedi cael y pleser o fynychu - ardderchog!