Llwyddiant eFarchnata
Cofrestrodd 48 o bobol ar gyfer Dosbarth Meistr eFarchnata InSynch a gynhaliwyd nos Fawrth diwethaf (13eg o Dachwedd) yn yr Orendy, Aberystwyth. Roedd y digwyddiad yn llawn dop gydag ystod eang o fusnesau lleol yn mynychu er mwyn gweld sut gellir gwneud mwy o ddefnydd o’r rhyngrwyd fel arf marchnata effeithiol. Cafwyd cyflwyniad deinamig ar sut i gyflawni hyn gan Eddy Webb, Cyfarwyddwr InSynch, ac i ddilyn cafwyd cyflwyniad byr gan Peter Williams ar wasanaethau eFusnes Llywodraeth y Cynulliad.
Dywedodd rhai o’r bobol a fynychodd bod y noswaith “yn llawn gwybodaeth”, “yn ddiddorol” ac “yn ysbrydoli”. Yn ol Ian Sharp o Munro:Sharp Training, “fe esboniwyd (y pwnc) yn glir iawn ac mae wedi rhoi sawl syniad i fi ar sut i wella fy marchnata ar y We.”
Cafodd y digwyddiad ei ariannu yn rhannol gan Lywodraeth y Cynulliad a Banc NatWest. Ychwanegodd Anthony Morgan, Uwch Reolwr Busnes NatWest yn Aberystwyth, “Cwsmeriaid yw enaid unrhyw fusnes ac mae’n hanfodol codi ymwybyddiaeth o’ch cynnyrch neu eich gwasanaeth er mwyn annog pobl i brynu oddi wrthoch chi. Mae cynllun marchnata yn hanfodol er mwyn helpu busnesau i gyrraedd eu targedau ac fe ddylai’r We fod yn rhan anhepgor o’r cynllun hwnnw. Rydym yn falch iawn o gefnogi’r digwyddiad”
Am ragor o fanylion am eFarchnata cysylltwch â ni ar enquiries@insynchbusiness.co.uk.

.jpg)