Brandio Busnes
Mae’n hanfodol sicrhau delwedd broffesiynol, nodweddiadol ar gyfer eich busnes er mwyn marchnata a hyrwyddo yn effeithlon.
Mae InSynch yn cynnig gwasanaeth Brandio Busnes fforddiadwy all gynnig dyluniad o safon uchel, broffesiynol ar gyfer eich busnes. Mae ein harbenigwyr marchnata profiadol yn gweithio gyda dylunwyr proffesiynol i ddarparu ystod o gynnyrch a gwasanaethau fydd yn eich galluogi i wneud y gorau o’ch marchnata.
Yn ogystal â’r cynnyrch sydd wedi’u rhestru isod rydym yn cynnig gwasanaethau dylunio a marchnata pwrpasol ac fe allwn baratoi cynnig arbennig ar eich cyfer fydd yn cwrdd â’ch anghenion busnes unigol. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion yn fanwl.
Gwasanaethau Brandio Busnes
- Dylunio Logo – datblygu logo newydd neu ail-wampio / ail-ddylunio logo busnes presennol. Cost: o £200
- Cardiau Busnes – dylunio ac argraffu. Cost: o £40 am 250; £60 am 500 cerdyn; £75 am 1,000 etc.
- Llenyddiaeth Busnes – yn cynnwys dylunio pen-llythyron busnes, cardiau busnes a slipiau cyfarch (dewis i argraffu am bris cystadleuol ar bapur/cerdyn safonol neu wedi’i ail-gylchu)
- Llenyddiaeth Hyrwyddo – dylunio taflenni/pamffledi/cardiau post//posteri lliw llawn
- Hysbysebu Busnes – dylunio a gosod hysbysebion yn effeithlon, ar-lein ac all-lein
- Dylunio Gwefan – datblygu Gwefan effeithlon sy’n cyd-fynd â’r ddelwedd gorfforaethol ac yn anelu at y farchnad darged. Cost: o £895
- Stondinau Arddangos – pop-ups, arddangosfeydd, stondinau, datblygu dylunio cysyniadol ar gyfer mynychu digwyddiadau.
- Ymgynghori ar Frandio Busnes – cyngor ac argymellion cynhwysfawr ar frandio busnes/delwedd gorfforaethol a hyrwyddo a marchnata yn gyffredinol.