CC & Marchnata
Mae gan InSynch adran farchnata gref sy’n ymdrin â’r agwedd hanfodol o hyrwyddo a hysbysebu busnesau er mwyn sicrhau eu bod yn cael y sylw a’r llwyddiant gorau posib.
Rydym yn ymgynghori ar farchnata ac yn datblygu strategaethau ar gyfer busnesau bach a mawr, gan weithio ym meysydd twristiaeth, mânwerthu, gwasanaethau, cynhyrchu a sectorau diwydiant eraill.
Mae ein Cynllun Marchnata Elît yn gynnyrch arloesol sy’n galluogi busnesau sydd ag ychydig o gyfalaf i gael cefnogaeth farchnata o’r radd flaenaf. Mae ein ymgynghorwyr marchnata yn aelodau o’r Sefydliad Marchnata Siartredig, gyda chymwysterau eFarchnata.
Mae yna amlinelliad o’n gwasanaethau marchnata isod ond cysylltwch â ni yn uniongyrchol er mwyn trafod eich anghenion yn eu cyfanrwydd ac fe allwn baratoi cynnig sydd wedi’i deilwra at eich anghenion busnes chi.
Gwasanaethau marchnata
- Cynllun Marchnata Elît
- Ymgynghori Marchnata
- Strategaeth Marchnata
- Ymchwil Marchnata
- Dadansoddi Tueddiadau
- Cysylltiadau Cyhoeddus
- Datganiadau i’r Wasg a Cysylltu a’r Cyfryngau
eFarchnata
- Ymgynghori ar eFarchata
- Gwneud y Gorau o Beiriannau Chwilio
- Defnyddio a Monitro Peiriannau Chwilio
- Ymgyrchoedd Hysbysebu Talu-fesul-clic
- Datblygu Cysylltiadau o’r Ddwy Ochr
- Ymgyrchoedd Marchnata eBost
- Datblygu eGylchlythyron
Rydym yn bles iawn gyda’r nifer o bobl ychwanegol sy’n ymweld a’r Gwefan, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y nifer o fwciadau rydym nawr yn eu derbyn...