Gwasanaethau Busnes InSynch Cyf

Mae Gwasanaethau Busnes InSynch Cyf yn gwmni deinamig ac arloesol sy’n cynnig gwasanaethau cefnogi i fusnesau o bob maint, yng Nghymu a drwy’r DU benbaladr.

Rydym wedi gweithio gyda busnesau o bob sector, gan gynnwys gweithgynhyrchu, twristiaeth, manwerthu a’r cyfryngau i enwi ond ychydig, gan helpu pob math o gwmni, o fasnachwyr unigol i gwmniau anferth. Rydym yn darparu gwasanaethau i’r sector gyhoeddus yn ogystal â busnesau preifat gan arbenigo mewn cyfuno cefnogaeth fusnes draddodiadol gydag arbenigedd eFusnes.

Mae gennym dîm o ymgynghorwyr arbenigol, cymwysiedig sy’n gweithio’n effeithiol i sicrhau cyngor a chefnogaeth o’r radd flaenaf bob tro. Mae ein Rheolwyr Prosiect a’n Cyfarwyddwyr yn Weithredwyr PRINCE2 ac mae gan y cwmni achrediad Buddsoddwr Mewn Pobl.

Gellir rhanu’r gefnogaeth y gallwn ei gynnig i bedwar prif gategori:

BUSNES

gan gynnwys agweddau eFusnes

MARCHNATA

gan arbenigo mewn rhaglenni eFarchnata

HYFFORDDI

cyrsiau safonol ac unigryw, gweithdai a seminarau.

CYNLLUNIO

Am fwy o wybodaeth neu am fanylion am gynnwys ein gwasanaethau, cysylltwch a ni yma.



  •