Gwefan Gychwynnol
Cael Eich Gwefan Fusnes Gyntaf
Ydych chi'n ystyried cael Gwefan fusnes ond ddim eisiau gwario gormod nes i chi wybod y bydd yn gweithio ar gyfer eich busnes?
Ydych chi eisiau rhoi prawf ar ddefnyddio'r Rhyngrwyd fel arf marchnata i'ch busnes?
Ydych chi'n brin o gyllid a sgiliau TG ond eisiau hyrwyddo eich busnes ar-lein?
Rydyn ni yn InSynch yn deall bod cymryd y cam cyntaf i gael presenoldeb ar y rhyngrwyd yn gallu bod yn anodd. Mae sawl busnes wedi gofyn i ni am ateb cost-effeithiol i brofi manteision cael gwefan fusnes. O ganlyniad rydym yn lansio dau becyn Rhyngrwyd ar lefel mynediad fydd yn eich galluogi i gael gwefan elfennol ond effeithiol, all fod yn gam cyntaf i chi farchnata a hyrwyddo eich busnes yn effeithlon ar-lein.
Gwefan Gychwynnol
Gall pob busnes elwa o rhyw fath o bresenoldeb ar y rhyngrwyd, hyd yn oed os yw mor sylfaenol a cherdyn busnes ar-lein y gall pobl ddod o hyd iddo'n rhwydd wrth chwilio am eich manylion cyswllt. Mae'r pecyn hwn yn cynnig tudalen gyfan o wybodaeth, cyfeiriadau e-bost proffesiynol yr olwg a ffordd syml o gysylltu. Y canlyniad yw presenoldeb ar-lein am y tro cyntaf mewn ffordd syml ond effeithlon.
- 2 flynedd o gofrestru enw parth .co.uk*
- 2 flynedd o westeia
- Hyd ar 2 gyfeiriad e-bost POP3
- Gwefan 2 dudalen (dudalen gartref a thudalen gysylltu)
- Hyd at 4 o ddelweddau/graffeg yn gynwysedig
- Cost: £295 + TAW
Starter Web Site Application Form
Gwefan Gychwynnol Uwch
Os hoffech gael gwefan gyntaf mwy cynhwysfawr fe fydd y pecyn hwn yn eich galluogi i gyhoeddi mwy o wybodaeth am eich cwmni ac mae'n sicrhau yr enw parth .com o'ch dewis* yn ogystal â'r fersiwn .co.uk. Eto fe fyddwch yn cael cyfeiriadau e-bost proffesiynol sydd wedi'u cysylltu â'ch enw parth fel ffordd effeithlon o gysylltu.
- 2 flynedd o gofrestru enw parth .co.uk a .com*
- 2 flynedd o westeia
- Hyd at 5 cyfeiriad e-bost POP3
- Gwefan 3 tudalen (tudalen gartref, tudalen ychwanegol a thudalen gysylltu)
- Hyd at 8 delwedd / graffeg yn gynwysedig
- Cost: £350 + VAT
Starter Plus Web Site Application Form
Cynllunio Gwe Unigryw
Cysylltwch â ni am ddyfynbris ar gyfer gwefan unigryw fydd yn wahanol i'r pecynnau uchod.
Sut i Fwrw Mlaen
Mae angen llenwi ffurflen syml ar gyfer pob pecyn Gwefan sydd yn www.insynchbusiness.co.uk/cyntaf neu gallwch dderbyn copi electroneg neu gopi caled drwy gysylltu ag InSynch isod.
Telerau Talu
50% o'r gost wrth gyflwyno eich cais gyda'r 50% yn weddill yn ddyledus pan fydd y Wefan wedi'i chwblhau.
Amserlen
Unwaith y byddwn yn derbyn eich ffurflen gais a'r blaendal byddwn yn dechrau gweithio ar eich Gwefan, a ddylai fod yn barod ac ar y rhyngrwyd o fewn 10 diwrnod gwaith (cyn belled a bod yr holl wybodaeth, testun a delweddau wedi'u derbyn). Rydym yn addo gwasanaeth cyflym er mwyn sicrhau y gall eich busnes ddechrau elwa bron yn syth o'i Wefan newydd a'i bresenoldeb ar-lein!