Gwneud y Gorau o Beiriannau Chwilio

Pan fo peiriant chwilio (fel Google, Yahoo, HotBot, Ask Jeeves etc.) yn ymweld â'ch gwefan mae'n asesu'r safle i weld pa mor berthnasol yw i rywun yn chwilio am ymadrodd penodol. Fe fydd wedyn yn penderfynu lle i leoli eich gwefan yn ei ganlyniadau.

Os na fyddwch yn agos i frig y canlyniadau prin iawn yw'r gobaith i chi gael ymwelwyr o beiriannau chwilio. Mae mwyafrif helaeth (70%) o ymwelwyr newydd â gwefan yn cyrraedd drwy ddefnyddio peiriant chwilio, felly os nad yw'ch gwefan yn cael ei ganfod a'i leoli yn y tudalennau ar y brig, rydych chi'n colli'r cyfle i ddenu ymwelwyr newydd â'ch gwefan a darpar gwsmeriaid newydd i'ch busnes. Mae InSynch wedi gweithio gyda channoedd o fusnesau i sichrau bod eu gwefan ar ei gorau ar gyfer y peiriannau chwilio, ac rydym wedi cael canlyniadau arbennig. Mae gwefan sydd ar ei gorau yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr o ran nifer yr ymwelwyr a pherfformiad eich gwefan fusnes yn ei chyfanrwydd y gwahaniaeth rhwng methiant a llwyddiant.


Sut mae'n gweithio

Rhowch chi ychydig o gefndir y busnes a'r wefan i ni, gan amlinellu beth yw eich prif gynnyrch / gwasanaeth, eich marchnad darged a'ch perfformiad ar hyn o bryd. Fe fydd angen i ni gael mynediad llawn i'ch gwefan ac fe fyddwn yn profi pa mor hawdd yw i ddefnyddio cyn gwneud unrhyw waith ar wneud y gorau o beiriannau chwilio (efallai bydd angen cysylltu â'ch datblygwr Gwe).

Y Gwasanaeth

Fe fyddwn yn darparu'r canlynol (gwasanaeth12 mis):

  • Meincnodi cychwynnol o berfformiad y wefan (gan gynnwys adroddiad ar safle'rwefan ac ystadegau'r wefan, os ar gael)
  • Dadansoddiad o'r allweddair/ymadrodd gorau
  • Gwneud y gorau o'r holl Wefan
  • Adroddiadau rheolaidd ar hynt y gwaith
  • Adroddiadau Deufisol ar safle'r Wefan ar y prif beiriannau chwilio


Cyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag InSynch gan ddefnyddio’r manylion isod neu cwbwlhewch ffurflen gais.