Ymgyrchoedd Hysbysebu Talu-Fesul-Clic
Nid yn unig mae peiriannau chwilio yn cynnig canlyniadau organig pan mae nhw'n chwilio am ymadrodd, mae nhw hefyd yn cynnig dolenni noddedig i wefannau sydd wedi talu am y fraint o ymddangos unwaith mae ymadrodd allweddol wedi'i gofnodi. Hysbysebu “talu-fesul-clic” yw hyn ac mae'n ffordd ardderchog ac effeithiol i wefannau ymddangos mewn lle blaenllaw ar dudalen flaen canlyniadau peiriannau chwilio.
Mae InSynch yn cynnig gwasanaethau ymgyrch hysbysebu talu-fesul-clic lle byddwn ni yn rheoli ymgyrchoedd hysbysebu arlein ar gyfer busnesau. Gall y busnes nodi faint mae eisiau gwario, pryd mae eisiau cynnal yr ymgyrchoedd a pha wasanaeth / gynnyrch y mae'n dymuno hyrwyddo yna gadael y cyfan i ni. Nid yn unig y byddwn yn cynnal yr ymgyrch ar eich rhan, fe fyddwn yn rhoi adroddiadau cyson i chi ar hynt yr ymgyrch, sawl argraffiad mae'ch hysbyseb wedi cael, cyfradd clicio drwodd i'r wefan, safle ar gyfartaledd yng nghanlyniadau y peiriannu chwilio, cost fesul clic ar gyfartaledd a chyfraddau trosiad (o argraffiad i glicio drwodd). Rydym hefyd yn monitro perfformiad ymadroddion allweddol dethol ac yn mireinio'r hysbyseb petae angen er mwyn sicrhau y perfformiad gorau am eich buddsoddiad. Mae ein ymgyrchoedd hysbysebu yn cael eu cynnal ar Google AdWords, y peiriant chwilio mwyaf poblogaidd ar y Rhyngrwyd. ??ò¬¨??¬¨?
Sut mae'n gweithio
Dywedwch chi wrthon ni beth hoffech chi ei gyflawni, faint hoffech chi ei wario a pryd hoffech chi gynnal yr ymgyrch. Fe fyddwn ni yn gwneud y gweddill.
Y Gwasanaeth
Fe fyddwn yn darparu'r canlynol:
- Dadansoddiad o'r Allweddair/ymadrodd
- gorau posib
- Dylunio'r Hysbyseb
- Pob cyswllt â Google
- Monitro rheolaidd, addasu ac adrodd
- Adroddiad ar Ddiwedd yr Ymgyrch
- Gwasanaeth di-ffwdan ac effeithlon!
Cost
Ffi cychwyn o £50 ar gyfer pob ymgyrch hysbysebu- Comisiwn o 20% ar gyfanswm gwariant yr ymgyrch
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag InSynch gan ddefnyddio’r manylion isod neu cwbwlhewch ffurflen gais.