Pecynnau Marchnata eBost

Pecyn Marchnata eBost


  • Cychwynnol
  • Dadansoddiad o'r drefn eBost
  • bresennol
  • Adolygiad o'r polisi eBost, gydag
  • argymellion ar gyfer gwelliannau (os
  • yn briodol)
  • Datblygu llofnodion corfforaethol a
  • phenawdau
  • Cyngor ar gwrteisi eBost
  • Cyngor ar gasglu a/neu rentu
  • cyfeiriadau eBost
  • Cyngor ar storio data cwsmeriaid yn
  • ddiogel a chyfreithlon


Cynnwys

Y pris i gynnwys dadansoddiad o'r drefn eBost bresennol; adolygiad o'r polisi eBost cyfredol, gydag argymellion am welliannau; datblygu llofnodion corfforaethol a phenawdau (os yn addas); cyngor ar gwrteisi eBost; cyngor ar gasglu a / neu rentu cyfeiriadau eBost ar gyfer marchnata yn y dyfodol; gwybodaeth a chyngor ar storio data cwsmeriaid mewn ffordd ddiogel a chyfreithlon (Y Ddeddf Gwarchod Data etc.). Fe fydd crynodeb o'r holl gyngor a gwybodaeth yn cael ei ddarparu mewn dogfen adroddiad gynhwysfawr.

Pecyn Marchnata eBost

  • Uwch
  • Datblygu ymgyrch farchnata eBost
  • Cynllunio a datblygu eGylchlythyr neu
  • dempled eBost
  • Rheoli a chynhyrchu ymgyrch
  • farchnata eBost*
  • Monitro ac adrodd ar hynt yr ymgyrch

Cynnwys
Y pris i gynnwys datblygu ymgyrch farchnata eBost (adroddiad ysgrifennedig); cynllunio eGylchlythyr corfforaethol neu dempled eBost, a chynhyrchu a dosbarthu yn fisol am flwyddyn (12 rhifyn) gyda'r cynnwys golygyddol a delweddau i'w cyflenwi gan y cwsmer; rheoli'r ymgyrch farchnata eBost arfaethedig dros gyfnod o 12 mis; monitro ac adrodd yn fisol ar yr ymgyrch farchnata o safbwynt y negeseuon sy'n cael eu cynhyrchu, nifer yn daddanysgrifio, nifer yn bownsio 'nol ac unrhyw dueddiadau sy'n dod i'r amlwg etc.




  •