Cymorth e-Fusnes

Cymorth i fusnesau Cymru gwtogi ar gostau a dod yn fwy effeithiol

Beth yw e-Fusnes?

Mae e-Fusnes yn sylfaenol i redeg unrhyw fusnes yn llwyddiannus ac yn effeithiol heddiw.
Mae integreiddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) yn galluogi ac yn gwella prosesau busnes a rheolaeth rhwng cyflenwyr, gweithgynhyrchwyr a chwsmeriaid. Yn yr hinsawdd economaidd heddiw, mae rheolaeth effeithiol ac effeithlon ar gyfathrebu a gwybodaeth yn hanfodol i aros ar flaen y gêm a chwtogi ar orbenion a chostau.

TGCh diagnostig

Gall busnesau gael cymorth oddi wrth ymgynghorydd annibynnol a diduedd i wneud gwiriad iechyd diagnostig neu fusnes ar gyfer TGCh Mae’r broses yn nodi cyfleoedd ar gyfer gwella busnes drwy TGCh, ac yn egluro’n glir y manteision a cyfleoedd fel mwy o effeithiolrwydd, cynhyrchiant, gallu i wneud elw, awydd i gystadlu a chwtogi ar gostau.

Ar ddiwedd y broses, bydd gan fusnesau adroddiad sy’n amlinellu atebion a chyfleoedd posibl i yrru eu busnes ymlaen, er enghraifft

  • Parhad busnes
  • Rheoli cysylltiadau â’r cwsmer
  • Diogelwch gwybodaeth
  • Dulliau cyfathrebu unedig
  • Gwneud y gorau o’r gadwyn cyflenwi

Cymorth cynhwysfawr ar gyfer E-Fusnes

Gall busnesau y mae angen iddynt integreiddio systemau TGCh newydd neu well dynnu ar Gymorth e-Fusnes.

Dechreua’r pecyn cyflawn hwn o sgiliau, adnoddau a chyllid gydag ymarferiad manwl i fapio prosesau busnes er mwyn darganfod yr holl gyfleoedd ar gyfer integreiddio TGCh.
 
Cyfyngir ar yr atebion a’r systemau a gynigir gan anghenion y busnes yn unig. Mae eich Rheolwr Prosiect penodol o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru ac ymgynghorydd diduedd annibynnol yn gweithio gyda’i gilydd i gyflwyno pecyn o gymorth sy’n benodol ar gyfer gofynion y busnes ac yn rhychwantu.

  • Dadansoddiad o anghenion
  • Dylunio atebion
  • Caffaeliad
  • Gweithredu
  • Hyfforddi staff


  •